Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu Technegol 1 a Phwynt Craffu ar Rinweddau 3: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwyntiau a godwyd ac yn cytuno â hwy ac mae wedi penderfynu tynnu’r Rheoliadau yn eu hôl. Rydym yn bwriadu eu hailosod ar ffurf ddiwygiedig i fynd i’r afael â’r pwyntiau hyn ar 4 Mawrth 2025.
Bydd Memorandwm Esboniadol diwygiedig yn cael ei osod ochr yn ochr â’r Rheoliadau a ailosodir er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad.
Pwynt Craffu Technegol 2: O ran yr ail Bwynt Craffu Technegol, gall yr wybodaeth a ganlyn fod o gymorth i’r Pwyllgor:
Mae’r amserlen y mae Arolygiaeth Gofal Cymru (sy’n arfer swyddogaethau rheoleiddiwr ar ran Gweinidogion Cymru) yn ei dilyn ar gyfer darparu canlyniad adolygiad y gofynnir amdano o dan reoliad 4(2)(a) wedi ei nodi ym mharagraff 6.9 o’r ddogfen ganlynol gan Arolygiaeth Gofal Cymru: Polisi ar gyfer Ymateb i Adroddiadau Arolygu (dogfen HTML) | Arolygiaeth Gofal Cymru.
“6.9. Rydym yn ceisio ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith i gael her. Os na fydd modd (neu os yw’n debygol na fydd modd) cadw at y terfyn amser, rhoddir gwybod i’r Person Cofrestredig, yr Unigolyn Cyfrifol neu’r unigolyn perthnasol am yr oedi a’r terfyn amser newydd ar gyfer ein hymateb.”
Y polisi yw’r modd ar gyfer gosod y terfynau amser ar gyfer rhannu canlyniad adolygiad Gweinidogion Cymru. Mae darparu’r amserlen ar gyfer ymateb yn y polisi yn hytrach na mewn deddfwriaeth yn mynd i’r afael â’r angen i ddarparwyr gael sicrwydd a’r angen i osgoi oedi, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd ar lefel weithredol pan all nifer o ffactorau amrywiol effeithio ar amseriadau.